Calcwlws integrol

Calcwlws integrol
Enghraifft o'r canlynolmaes o fewn mathemateg, damcaniaeth mathemategol Edit this on Wikidata
Mathcalcwlws Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcalcwlws differol Edit this on Wikidata
Rhan ocalcwlws, analysis in one real variable (calculus) Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gellir cynrychiolir integryn pendant o unrhyw ffwythiant gan y ddwy ardal a nodir gan yr arwyddion + a - ar y graff.

Mewn calcwlws integrol mae'r integryn yn aseinio rhifau i ffwythiannau mewn modd a all ddisgrifio dadleoli, arwynebedd, cyfaint, a chysyniadau eraill sy'n codi trwy gyfuno data gorfychan (infinitesimal). Mae integreiddio yn un o'r ddau brif weithrediad o calcwlws, gyda'i weithrediad gwrthdro, gwahaniaethu, sef y llall.

Dau raniad clasurol sydd i galcwlws: calcwlws integrol a chalcwlws differol.[1] Cysylltir y ddau raniad hyn gan theoremau ffwndamental calcwlws, sy'n mynnu mai differiad yw'r gwrthwyneb i'r integriad (integration).[2]

O gael ffwythiant f newidyn real x a chyfwng [a, b] o'r linell real, yna mae'r integryn pendant

yn cael ei ddiffinio'n anffurfiol fel ardal sydd wedi'i arwyddo (gan + a -) o fewn ardal o'r plân-xy o fewn arffiniau'r graff o f, yr echel-x a'r llinellau fertigol (plwm) x = a a x = b. Mae'r ardal uwchben yr echelin-x yn cael ei ychwanegu i'r cyfanswm a'r ardal o dan yr echelin-x yn cael ei dynnu o'r cyfanswm.

  1. ""Integral Calculus - Definition of Integral calculus by Merriam-Webster"". www.merriam-webster.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-01.
  2. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Daearyddiaeth a Daeareg, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 8 Rhagfyr 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy